Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 26 Mehefin 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
14.01 - 15.55 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Melding AC (Cadeirydd) Jocelyn Davies AC Paul Davies AC Ann Jones AC William Powell AC (yn lle Eluned Parrott AC) |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Rhodri Asby, Llywodraeth Cymru Lucy Corfield, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Steve George (Clerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Jessica England (Secretariat) Chloe Corbyn (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Eluned Parrott. Dirprwyodd William Powell ar ei rhan.
1.3 Nodwyd bod Jocelyn Davies wedi'i hethol yn aelod o'r Pwyllgor ers y cyfarfod diwethaf.
2 Sesiwn Graffu ar waith y Gweinidog – Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd 2010 gan Lywodraeth Cymru
2.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Prif Weinidog yn y meysydd a ganlyn mewn perthynas â Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2010:
1. Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd - cynnydd hyd yma
2. A yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd?
3. Y sector preswyl
4. Newid ymddygiad ac addysg
5. Busnes/ynni adnewyddadwy
2.2 Gofynnodd y Cadeirydd nifer o gwestiynau i'r Prif Weinidog, a ddaeth i law gan sefydliadau ac aelodau o'r cyhoedd drwy'r cyfryngau cymdeithasol.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i ohebiaeth gan y Cadeirydd yn ymwneud â pherthynas y Llywodraeth â'r trydydd sector a'r sector preifat.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer Eitem 5 ar yr agenda.
5 Trafod y dystiolaeth o'r sesiwn flaenorol
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Prif Weinidog yn ystod y sesiwn graffu flaenorol.